Mae ein rhaglen o weithgareddau yn darparu ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi, gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio sydd wedi'u cynllunio er mwyn cefnogi datblygiad sgiliau a datblygiad gyrfa. Mae'r digwyddiadau hyn yn dod â dysgwyr, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth, datblygu arbenigedd, ac archwilio'r tueddiadau diweddaraf mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
P'un ai eich bod yn awyddus i wella eich sgiliau, cysylltu ag unigolion sydd â’r un diddordebau â chi, neu glywed barn arbenigwyr y diwydiant, mae ein digwyddiadau’n cynnig rhywbeth i bawb. O sesiynau hyfforddi ymarferol a dosbarthiadau meistr dan arweiniad cyflogwr i drafodaethau panel a chyfleoedd rhwydweithio, mae pob digwyddiad wedi'i gynllunio er mwyn rhoi profiadau dysgu gwerthfawr a all gefnogi eich taith yrfa.
Ar y dudalen hon, fe welwch fanylion am y digwyddiadau sydd i ddod. Os nad oes unrhyw ddigwyddiadau wedi'u rhestru ar hyn o bryd neu os hoffech chi drafod cyfleoedd wedi'u teilwra arbennig ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â ni - byddem yn hapus i drafod sut y gallwch chi gymryd rhan.