Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn cefnogi pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu sgiliau o ansawdd uchel a llwyddo yn eu gyrfaoedd dewisol. Rydym yn gwneud hyn trwy hyrwyddo dysgu galwedigaethol trwy Gystadlaethau Sgiliau, gan roi cyfleoedd i unigolion herio eu hunain, meithrin hyder, ac ennill profiad sy'n berthnasol i’r diwydiant.
Mae'r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei arwain gan Goleg Sir Gâr, yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â rhwydwaith penodol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a sefydliadau ar arweinir gan gyflogwyr. Ers ei sefydlu, mae wedi chwarae rhan allweddol o ran ehangu cyfranogiad mewn Cystadlaethau Sgiliau ac ymgorffori rhagoriaeth alwedigaethol ar draws y sector addysg a hyfforddiant.
Mae Cystadlaethau Sgiliau’n galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn tra'n helpu i godi lefelau sgiliau cyffredinol er mwyn diwallu anghenion cyflogwyr. Trwy ddatblygu gweithlu hynod o fedrus, mae'r prosiect yn cefnogi twf economaidd, yn rhoi hwb i gynhyrchiant, ac yn cryfhau cymunedau ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn sgiliau yn fuddsoddiad yn y dyfodol - er budd unigolion, busnesau, a'r economi ehangach.
Mae'r rhaglen yn helpu i greu diwylliant o ragoriaeth ar draws colegau a darparwyr hyfforddiant, gan fynd y tu hwnt i gymwysterau er mwyn datblygu sgiliau o'r radd flaenaf. Trwy rannu arferion gorau ac arbenigedd, rydym yn cyfrannu at godi safonau addysgu a dysgu, gan ymgorffori Cystadlaethau Sgiliau fel dull gwerthfawr o asesu a gwella addysg alwedigaethol.
Rydym hefyd yn rhedeg y cynllun Datblygu Rhagoriaeth, sy'n darparu sesiynau DPP a gweithdai i staff, gan ganolbwyntio ar Gystadlaethau Sgiliau. Mae'r fenter hon yn helpu addysgwyr i wella eu haddysgu, rhannu arferion gorau, a gwella eu gallu i gefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau galwedigaethol lefel uchel, gan gyfrannu at ragoriaeth gyffredinol ar draws y sector addysg a hyfforddiant.
Trwy greu ethos Tîm Cymru cryf, rydym yn parhau i godi dyheadau, cefnogi datblygu talent, ac adeiladu gweithlu sy’n barod ar gyfer bodloni gofynion byd sy'n newid.