Hysbysiad preifatrwydd
Wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO): Coleg Sir Gar (Z6543042)
Cyflwyniad
Er mwyn darparu ein gwasanaethau mewn modd llwyddiannus rydym yn ddibynnol arnoch chi i ddarparu data personol i ni. Coleg Sir Gâr, fel rheolwr y prosiect (y Coleg, wedi hyn) fydd y rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych. Bydd y Coleg yn defnyddio'r wybodaeth hon i weinyddu a rheoli'r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gefnogir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Ar gyfer beth fydd y Coleg yn defnyddio'ch gwybodaeth?
Fel menter aml-brosiect rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth i ddarparu’r safon o wasanaeth sydd fwyaf addas i ddiwallu eich anghenion. Bydd y Coleg yn defnyddio'ch data i:
Gyfathrebu â chi am y gwasanaethau y gofynnwch amdanynt
Trefnu cystadlaethau sgiliau a gweithgareddau rho gynnig arni
Eich cefnogi gyda chyfleoedd hyfforddi a datblygu
Cadw golwg ar eich cynnydd a'ch llwyddiant
Monitro a hyrwyddo gweithgareddau yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru
Sgwrsio gyda chi am wasanaethau tebyg rydym yn eu cynnig a allai fod o ddiddordeb i chi.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich Data:
Os ydych yn ymgysylltu â’n gweithgareddau byddwn yn defnyddio'ch data i sicrhau y gellir darparu gwasanaeth o’r safon orau. Gall hyn yn aml olygu ein bod yn rhannu eich gwybodaeth â'n partneriaid sydd dan gytundeb cymeradwy.
Drwy ymgysylltu â'n gweithgareddau, byddwn yn rhannu eich data gyda:
Ein cyllidwyr craidd, Llywodraeth Cymru, a all ddefnyddio'r wybodaeth at ddibenion Marchnata a Chyfathrebu ochr yn ochr â monitro a gwerthuso.
Ein hasiantaeth marchnata a chyfathrebu dan gytundeb
Os ydych yn gystadleuydd sy'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a/neu gystadlaethau WorldSkills UK, byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda:
Eich man astudio a neu gyflogwr
Arweinwyr y Gystadleuaeth sy'n gyfrifol am sicrhau bod y cystadlaethau'n cael eu cynllunio a'u cyflwyno'n effeithiol.
Hyrwyddwyr sector sydd wedi cael eu penodi i ddarparu cymorth arbenigol i gystadleuwyr
Arbenigwyr a sefydliadau eraill a gomisiynwyd gennym i gyflwyno agweddau ar ein rhaglen o weithgareddau.
Os ydych yn Llysgennad ISEiW, byddwn hefyd yn rhannu eich manylion gyda:
Ein sefydliadau hyfforddi cymeradwy.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n ymgysylltu â'n cyfleoedd DPP, byddwn hefyd yn rhannu eich manylion gyda:
Agored Cymru sy'n darparu ardystiad ar gyfer y Wobr Ymarferwyr Arbenigol mewn Sgiliau Ysbrydoledig
Hwyluswyr a Hyrwyddwyr Sector sydd wedi cael eu penodi i ddarparu cymorth arbenigol
Pa wybodaeth bersonol y gall y Coleg ei gasglu a'i ddefnyddio?
Bydd rhywfaint o'r data a gesglir gennym yn ddata personol a/neu’n ddata categori arbennig fel y'u diffinnir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data sy'n cynnwys:
Data Personol
Cyfenw ac Enw(au) Cyntaf
Cyfeiriad (Cartref) a Chodau Post
Rhif ffôn
Cyfeiriad e-bost
Dyddiad geni
Perthynas agosaf
Dewis iaith gohebiaeth - Cymraeg / Saesneg
Statws cyflogaeth
Manylion cyflogwr
Data Categori Arbennig (ar yr amod bod y data hwn yn ddewisol a fydd yn cynnwys)
Rhyw
Ethnigrwydd
Math o anabledd
Cyflyrau iechyd
Trefniadau Diogelwch ar gyfer eich data a gedwir gan y Coleg
Bydd y data y mae'r Coleg yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel rheoli mynediad sy'n cael ei phrofi'n rheolaidd am ddiogelwch ac uniondeb.
Eich hawliau a'ch dewisiadau
O dan Y Rheoliad Cyffredinol o Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych yr hawl i:
gael mynediad at y data personol sydd gan y Coleg amdanoch chi
gwneud hi’n ofynnol i'r Coleg gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
gwrthwynebu prosesu ar sail eich sefyllfa benodol (mewn rhai amgylchiadau)
cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
ddileu eich data (mewn amgylchiadau penodol)
gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Am ba hyd y bydd y Coleg yn cadw eich gwybodaeth?
Fel sefydliad sy’n cael ei ariannu, rhaid i ni gadw data am gyfnod penodol o amser, yn unol â disgwyliadau'r cyllidwyr. Ar hyn o bryd, mae hyn wedi'i osod am 5 mlynedd ar ôl i'r prosiect gau.
Hysbysiadau o newidiadau
Os yw'r Coleg yn bwriadu defnyddio'ch data mewn ffordd wahanol i'r hyn a nodwyd ar yr adeg a gafodd ei gasglu, cewch eich hysbysu. Bydd holl brosesu'r Coleg yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data sy’n bodoli ar yr adeg honno. Bydd diweddariadau i'r hysbysiad preifatrwydd ar gael ar
Cysylltiadau
I gael manylion am y wybodaeth sydd gan y Coleg a sut mae’n cael ei ddefnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, cysylltwch â: Swyddog Diogelu Data, Coleg Sir Gar, Campws y Graig, Heol Sandy, Llanelli, SA15 4DN neu dataprotectionofficer@colegsirgar.ac.uk
I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU) neu www.ico.org.uk/