Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n codi proffil sgiliau drwy roi cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid brofi a gwella eu galluoedd drwy gystadleuaeth. Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a'u darparu gan rwydwaith o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'r cystadlaethau’n cyd-fynd â safonau WorldSkills ac yn cefnogi anghenion economi Cymru.

Yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddynt, mae’r cystadlaethau a gynhelir rhwng Ionawr a Mawrth bob blwyddyn yn cwmpasu ystod eang o sectorau, o beirianneg a lletygarwch i dechnolegau digidol ac iechyd a gofal cymdeithasol. Gall cystadleuwyr ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r diwydiant, ennill cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau, a hyd yn oed symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Bob blwyddyn, daw'r gystadleuaeth i ben gyda seremoni wobrwyo sy'n dathlu llwyddiannau’r cystadleuwyr sy’n cyrraedd y brig. Ar y dudalen hon, fe welwch chi fanylion y cystadlaethau sydd ar gael, dolenni i gofrestru, a chanlyniadau'r gorffennol.

Nol i dop y dudalen