Cyber Wales yn Cefnogi'r Bwlch Sgiliau Seiberddiogelwch yng Nghymru

Sesiynau Datblygu Rhagoriaeth gyda Cyber ​​Wales

Ar gyfer rhan nesaf ein cyfres Datblygu Rhagoriaeth, buom yn siarad â John Davies a Jason Davies o Cyber ​​Wales, corff cynrychioliadol sydd â’r nod o fod yn Galon a Llais y cymunedau Seiber yng Nghymru.

Dechreuodd John a Jason y fforwm Seiber Cymreig cyntaf ym mis Gorffennaf 2014, ac yna sefydlwyd dau glwstwr Gogledd a De Cymru y flwyddyn ganlynol oherwydd poblogrwydd aruthrol. Mae Cyber ​​Wales yn cynnwys naw clwstwr ledled y wlad, sy’n cwmpasu pedwar maes, sy’n mynd i’r afael â meysydd allweddol y gymuned seiber:

  • Busnesau - mawr a bach
  • Addysg – colegau, ysgolion, a phrifysgolion
  • Llywodraeth – llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU
  • Amddiffyn – plismona a milwrol

Mae seiber fel diwydiant yn esblygu’n gyson, gan mai digideiddio yw’r cam presennol o ddatblygiad technolegol, ac mae hyn yn cyflwyno heriau newydd. Mae John yn esbonio, boed hynny trwy “ID Digidol, rheoli traffig digidol neu lywodraeth ddigidol, y mwyaf digidol yw gwlad, y mwyaf syml y daw ac mae'n golygu bod eich cyfathrebu’n cyflymu, rydych chi'n siarad yn well â'ch poblogaeth”. Er bod technoleg wedi galluogi datblygiad digidol, mae John yn nodi bod y cynnydd hwn mewn technoleg hefyd yn “galluogi troseddwyr i fanteisio ar hyn, felly’r rheswm dros y cynnydd enfawr mewn seiberdroseddu, yw oherwydd ein bod yn digideiddio popeth yn sydyn”.

Mae Jason a John ill dau’n pwysleisio pwysigrwydd uwchsgilio’r rhai sy’n addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr seiber, gan fod natur eang a chyfnewidiol y diwydiant yn golygu y bydd rhywbeth newydd neu ffordd newydd o edrych arno bob amser. Rhaid i’r hyfforddwyr hynny sy’n cymryd rhan yn y sesiynau Datblygu Rhagoriaeth fod yn ymwybodol, er mwyn casglu gwybodaeth eang am seiber at ddiben addysgu eu myfyrwyr yn well, y byddai angen wedyn i rywun sydd wedi cwblhau’r holl DPP ar gyfer y pynciau Seiber ymosodol, er enghraifft, edrych ar amddiffyn yn ogystal â busnes.

“Mae DPP yn hynod o bwysig, dydw i ddim yn argymell bod pob athro yn dod yn arbenigwr seiber, ond yn hytrach bod angen iddyn nhw allu gwybod digon i arwain eu dysgwyr. Mae hynny yr un peth ar gyfer pob diwydiant, ond mae'n arbennig o anodd yn y diwydiant hwn oherwydd ei fod yn symud mor gyflym." (Jason Davies, Cyber Wales)

Eleni cynhaliodd Cyber ​​Wales ddwy sesiwn DPP, gyda’r cyntaf yn cynnwys yr hyfforddwyr yn cymryd rhan yn yr un gystadleuaeth ag y gwnaeth y myfyrwyr yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru y llynedd. “Roedden ni eisiau iddyn nhw ei brofi o safbwynt y myfyriwr, er mwyn iddyn nhw weld pa sgiliau sy’n cael eu profi”, meddai Jason. Roedd yr ail sesiwn yn seiliedig ar adborth a chanlyniadau o'r cofnodion ac yn canolbwyntio ar yr hyn roedd yr hyfforddwyr yn cael trafferth ag ef neu'n dymuno gwybod mwy amdano o'r enghraifft yn y sesiwn gyntaf.

Mae John a Jason yn ystyried y dull hwn yn ffordd wych o hybu'r berthynas rhwng hyfforddwr a myfyriwr. Mae Jason yn credu bod hyn “yn creu profiad a rennir iddyn nhw, gan mai un o’r pethau mwyaf cyffredin rydyn ni’n ei glywed gan athrawon yw ‘sut alla i baratoi fy myfyrwyr orau ar gyfer cystadlaethau?’”. Mae profi’r cystadlaethau o safbwynt myfyriwr felly’n caniatáu i hyfforddwyr baratoi eu myfyrwyr yn well ar gyfer y cystadlaethau. Yn amyl mae gwersi'n cynnwys staff addysgu yn esbonio pwnc o safbwynt damcaniaethol, ond mae'r dull hwn yn caniatáu iddyn nhw fyfyrio ar brofiad go iawn sydd wedyn yn creu sylfaen fwy cyfartal â'u myfyrwyr.

Mae ffigurau o 2021 yn dangos bod gan gronfa recriwtio seiberddiogelwch y DU ddiffyg o 10,000 o bobl y flwyddyn, gyda llywodraeth y DU yn nodi bwlch sgiliau sylfaenol o 50% a bwlch sgiliau technegol uwch o 33%. Yn naturiol, wrth i’r diwydiant dyfu, felly hefyd y bydd y bwlch sgiliau, wrth i fwy yn ein cymdeithas ddod yn ddigidol, felly mae’n cynyddu’r angen i sicrhau’r meysydd hyn sydd newydd eu digideiddio.

“Rwy’n meddwl mai dyma ble mae gan bethau fel ISE, ysgolion a cholegau ran i’w chwarae wrth gysylltu diwydiant ac addysg. Pe bai diwydiannau’n dweud ein bod ni angen pobl â sgiliau yn y deg peth hyn, gall cyrsiau gael eu newid, a gall cystadlaethau gael eu hanelu at y deg peth hwnnw.” (Jason Davies, Cyber Wales)

I ddysgu mwy am Cyber ​​Wales a'i fforymau cliciwch yma

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl hyfforddiant DPP cliciwch yma

Ystadegau:

 

Nol i dop y dudalen