Hafan

Yn Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, rydym yn cynnal rhaglen o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo addysg alwedigaethol, hyfforddiant a llwybrau gyrfa. Trwy annog unigolion i ddatblygu sgiliau o ansawdd uchel, ein nod yw cael effaith barhaol, gadarnhaol ar ddysgwyr a busnesau ledled Cymru.

Rhan allweddol o'n gwaith yw cefnogi dysgu galwedigaethol trwy Gystadlaethau Sgiliau. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc fireinio’u galluoedd, profi eu hunain yn erbyn safonau'r diwydiant, ac ennill profiad ymarferol sy'n eu paratoi ar gyfer y gweithle.  Trwy gymryd rhan, mae’r cystadleuwyr yn meithrin hyder, yn gwella eu sgiliau technegol ac ymarferol, ac hefyd yn gwella eu cyflogadwyedd. Mae llawer yn mynd yn eu blaenau i lwyddo yn eu meysydd dewisol, gan gyfrannu at weithlu cryfach a mwy medrus yng Nghymru.

Rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr addysg, sefydliadau hyfforddi, a chyflogwyr i sicrhau bod dysgu galwedigaethol yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Drwy dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael, rydym yn helpu i ysbrydoli unigolion i ddilyn gyrfaoedd gwerth chweil mewn diwydiannau sy'n hanfodol i economi Cymru.

Trwy ein mentrau, ein nod yw cau bylchau sgiliau, cefnogi twf economaidd, a sicrhau bod busnesau’n cael mynediad at y gweithlu talentog sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Nol i dop y dudalen