Amaethyddiaeth Gynaliadwy

Nod y gystadleuaeth amaethyddiaeth gynaliadwy yw ymgysylltu â dysgwyr sy’n astudio cyrsiau amaethyddol neu gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r tir ar Lefel 2 neu Lefel 3. Bydd thema'r gystadleuaeth yn cael ei seilio ar un o'r senarios isod (y gellir eu haddasu/newid cyn hynny) ac mae'n debygol o fod ar ffurf prosiect/cyflwyniad, gyda'r posibilrwydd o gynnwys elfen ymarferol fach.

1. Her Fferm Deuluol Gynaliadwy

Thema: Arallgyfeirio Ffermydd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol

Trosolwg: Bydd timau’n ymateb i senario fferm deuluol Gymreig sydd dan bwysau economaidd ac amgylcheddol. Eu her fydd datblygu cynllun arallgyfeirio cynaliadwy sy'n sicrhau elw yn ogystal â gwelliannau i’r amgylchedd a bioamrywiaeth.


2. Her Ffermio Cylchol

Thema: Amaethyddiaeth Diwastraff ac Adfywiol

Trosolwg: Bydd y timau'n dylunio system ffermio dolen gaeedig sy'n lleihau gwastraff, yn adfywio iechyd y pridd, ac yn gwella cynaliadwyedd wrth gynhyrchu cnydau a da byw.

3. Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy mewn Hinsawdd sy'n Newid

Thema: Cydbwyso Diogelwch Bwyd gyda Chadwraeth a Lleihau Carbon

Trosolwg: Bydd y timau'n datblygu model cynhyrchu bwyd cynaliadwy sy'n sicrhau bod y fferm yn cynhyrchu cnydau a da byw yn effeithlon yn ogystal â diogelu bioamrywiaeth a lleihau ôl troed carbon y fferm. Mae'r senario hwn yn annog cydweithredu rhwng dysgwyr amaethyddiaeth, garddwriaeth a chadwraeth.

Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 23/11/2026

Nol i dop y dudalen