Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaethau Glanhau

Mae'r gystadleuaeth hon wedi'i chynllunio i roi cyfle realistig a chynhwysol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ddangos eu sgiliau glanhau mewn amgylchedd dan reolaeth. Mae'r tasgau’n adlewyrchu cyfrifoldebau glanhau bob dydd ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol ac arferion gweithio diogel.
Bydd cystadleuwyr yn cwblhau tair tasg o fewn y terfynau amser a osodwyd. Mae pob tasg wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch ac yn caniatáu cefnogaeth wahaniaethol ac offer arbenigol. Bydd y gystadleuaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd hylendid, ymwybyddiaeth o beryglon ac arferion glanhau sy’n amgylcheddol gyfrifol.

Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 23/11/2026

Nol i dop y dudalen