Bydd Ymarferydd Therapi Harddwch yn cyflawni ystod o wasanaethau harddwch a gofal croen o safon uchel gan gynnwys coluro, trin ewinedd y dwylo a’r traed, tylino a thriniaethau therapi corff eraill; a’r cyfan o dan safonau iechyd a diogelwch gofynnol.
Yn y gystadleuaeth hon, bydd y cystadleuwyr yn cael eu hasesu am wneud cyfres o dasgau i gwblhau triniaeth llygaid moethus, gan gynnwys; glanweithio'r wyneb yn llawn, dadansoddi'r croen, digennu, tylino'r llygaid a rhoi mwgwd llygad.
Ar y dudalen hon byddwch yn gallu lawrlwytho mwy o fanylion am y weithgaredd cystadlu eleni. Gellir dod o hyd i'r rhain ym mriff y gystadleuaeth.
Bydd y cofrestriad ar gyfer y cylch hwn ar agor ar 09:00 23/11/2026