Troi Eich Llaw

Fenter Troi eich Llaw

Mae menter Troi eich Llaw yn defnyddio profiadau rhybgweithiol llawn hwyl I annog plant ysgolion cynradd ac uwchradd, a myfyrwyr addysg bellach, i ddysgu mwy am yrfaoedd a phrentisiaethau galwedigaethol.

Mae citiau Troi eich Llaw yn rhoi poperth sydd ei angen fel y gallwch roi cipolwg go iawn a difyr i ddysgwyr ar rai o'r opsiynau gyrf mwyaf poblogaidd a chyffrous. Mae profiadau ar gael mewn pum sector diwydiant, yn amrywio o'r cyfrygau i beirianneg.

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth ychwanegol am y citiau sydd ar gael a'r adnoddau i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Nol i dop y dudalen