Cit Technegydd Miwsig

Ewch ati i ddeffro awen gerddorol, greadigol dysgwyr gyda’n cit technegydd miwsig. Mae’r cit hwn, a fydd yn siwˆr o gyffroi unrhyw un sy’n frwd am gerddoriaeth, yn cynnwys Ableton Push – offeryn sy’n rhoi’r cyfan sydd ei angen i gynhyrchu cerddoriaeth ar flaenau eu bysedd. Gall dysgwyr droi eu llaw at chwarae neu ddilyniannu eu syniadau cerddorol i gynhyrchu eu creadigaeth gerddorol eu hunain. Gyda phadiau a rheolaethau arbennig, bydd Ableton Push yn cadw’r gerddoriaeth i lifo.

Nol i dop y dudalen