Cit EV3 Lego Mindstorms

Mae yna ddyfodol anhygoel i roboteg - a gallai eich myfyrwyr fod yn rhan o hynny. Mae ein cit EV3 Lego Mindstorms yn galluogi disgyblion i ddefnyddio eu dychymyg a’u sgiliau i greu robotiaid y gellir eu haddasu a’u rhaglennu. Mae’r set yn cynnwys cyfrifiadur briciau deallus sy’n rheoli’r system, set o synwyryddion a moduron modiwlaidd, a rhannau Lego i greu’r systemau mecanyddol. Cit difyr a diddorol a fydd yn rhoi cyfle i’r disgyblion ddysgu pa mor hanfodol yw mathemateg, gwyddoniaeth, cyfrifiadureg a dylunio a thechnoleg i roboteg a pheirianneg.

Nol i dop y dudalen